Addysg Uwch ac Ymchwil
Ers blynyddoedd, bu Plaid Cymru yn lleisio pryderon am y sector addysg uwch, gan rybuddio ei fod mewn argyfwng ac mewn angen dybryd am gefnogaeth. Gwnaethom hyn am ein bod yn cydnabod rôl bwysig prifysgolion yn ein cymunedau, o ran denu myfyrwyr a staff a chefnogi’r economi a chadwyni cyflenwi lleol trwy wireddu doniau ein pobl ifanc.
Gan gydnabod yr heriau difrifol sy’n wynebu’r sector, byddwn yn gweithio i ehangu’r niferoedd sy’n astudio ym mhrifysgolion Cymru, gan ddenu mwy o fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn ogystal â chadw’r niferoedd presennol o fyfyrwyr y DG a thramor, fydd yn arwain at gynnydd net yn nifer y myfyrwyr.
Byddwn yn gweithio gyda’r sector a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi llwybrau hyblyg, wedi eu personoleiddio, i Addysg Uwch trwy roi mwy o gydnabyddiaeth i ddysgu a wnaed mewn mannau eraill, a thrwy hyrwyddo cyrsiau byrion. Bydd y llwybrau newydd hyn yn helpu i ateb yr angen am hyfforddi’r gweithlu, a byddant hefyd yn cynnig polisïau fydd yn cyfoethogi dysgu gydol oes ac yn adfywio cymunedau. Yn unol â datblygiadau ar draws Ewrop, fe roddwn flaenoriaeth i feysydd sydd yn hybu cynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol.
Byddwn hefyd yn cynyddu buddsoddiad y llywodraeth mewn ymchwil a datblygu. Byddwn am ddatganoli cyfran Cymru o wariant y DG ar ymchwil ac arloesedd ac yn mynnu neilltuo grant bloc ar sail poblogaeth, gyda goruchwyliaeth lem er mwyn sicrhau parhad i rôl Cymru fel gwlad sy’n cynhyrchu ymchwil cydnabyddedig yn rhyngwladol o’r radd flaenaf, sy’n cael effaith ar fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ein huchelgais yw gweld addysg brifysgol am ddim unwaith eto i bawb, a byddwn yn gweithio gyda’r prifysgolion i ddatblygu cynllun i’w gwneud yn ariannol hyfyw fel y gall hyn fod yn ddewis gwirioneddol.