Cymhwysedd Digidol
Rydyn ni’n credu y dylai fod gan bob plentyn yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddysgu gartref, gan gynnwys gliniadur a darpariaeth di-wifr ddigonol. Byddwn ni’n cyflwyno ‘hawliad digidol’ ar gyfer pob dysgwr, gan ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau digidol a mynediad rhyngrwyd cyflym yn cael eu darparu i bob disgybl.
Byddwn ni’n cyflwyno rhaglen gydweithredol fawr newydd ar sgiliau digidol, gan ddod ag addysg, cyflogwyr a’r Llywodraeth ynghyd. Wrth ei chalon bydd ymdrech gasgliadol genedlaethol i sicrhau bod mwy o bobl (pobl ifanc yn benodol) yn dewis ymgysylltu â rhaglenni addysg dechnegol a digidol, i ateb galw’r gymdeithas a’r economi am sgiliau a chymwyseddau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Byddwn ni’n gosod targed o greu 5,000 o raddedigion technoleg ychwanegol y flwyddyn, gyda phwyslais cryf ar gynyddu nifer y graddedigion sy’n fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli.
Byddwn ni’n adolygu rôl academïau addysg a hyfforddiant arbenigol, fel yr Academi Meddalwedd Genedlaethol a’r Sefydliad Codio, i asesu a ydyn nhw’n barod i ateb y galw presennol a’r ehangiad posib y bydd ei angen yn y dyfodol. Byddwn ni’n asesu a oes modd i academïau arbenigol weithio’n agosach gydag ysgolion, Addysg Bellach ac Addysg Uwch, a sefydliadau dysgu yn y gwaith, er mwyn prif ffrydio hyfforddiant digidol arbenigol. Bydd hyn hefyd yn helpu i leihau’r rhaniad digidol, o ran rhywedd, oedran, a gwahaniaethau rhwng dosbarthiadau cymdeithasol, yng nghyddestun y gweithlu digidol presennol.
Dwi'n pleidleisio dros y Blaid
10,420 votesGyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.
Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.
Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?
Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.