Ymchwil

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n cymryd rôl arweiniol yn darparu cyllid ar gyfer ymchwil. Byddwn ni’n ceisio datganoli cyfran Cymru o wariant Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig, a dyrannu grant bloc yn seiliedig ar boblogaeth.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n gwario oddeutu 1% o’i chynnyrch mewnwladol crynswth ar ymchwil a datblygu (tua £750 miliwn y flwyddyn). Dylen ni osod nod cenedlaethol i ddyblu hynny i 2% erbyn 2030. Byddwn ni’n cynyddu ariannu gan y Llywodraeth ar gyfer arloesedd ac ymchwil a datblygu £100 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd.

Bydd strategaeth a darpariaeth arloesi Cymru’n cael ei gyrru gan gorff Arloesi Cenedlaethol newydd.

Yn ogystal, byddwn yn creu Sefydliad Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Economi’r Dyfodol gan gynnwys Labordy ar gyfer Arloesi’r Gweithle, a fydd yn helpu i roi Cymru ar fap byd-eang fel cenedl ddigidol, ac i hwyluso ymagwedd fwy integredig tuag at gymhwyso ymchwil flaengar ar Ddeallusrwydd Artiffisial ledled Cymru.

Addysg: darllen mwy