Ysgolion

Cyllid

Bydd Plaid Cymru’n buddsoddi mwy yn ein hysgolion i gyflogi mwy o staff. Erbyn diwedd ein tymor cyntaf yn y llywodraeth byddwn ni:

  • Yn recriwtio ac yn cadw 4,500 o athrawon a staff cynorthwyol arbenigol ychwanegol.
  • Yn cyflogi mwy o gydlynwyr Anghenion Dysgu.
  • Yn cynyddu cyfleoedd Dysgu Proffesiynol.

Byddwn yn darparu cyllideb tair blynedd ar gyfer addysg fel bod ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn gallu cynllunio a defnyddio eu hadnoddau yn well. Byddwn ni’n sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y rheng flaen mewn modd effeithiol a phrydlon, gan symud oddi wrth grantiau penodol a dyraniadau munud olaf. Bydd y cyllid ychwanegol rydyn ni wedi’i ddynodi yn caniatáu mwy o gapasiti i ysgolion ar gyfer prosiectau arbennig a datblygu cwricwlwm.

Byddwn ni’n lleihau gweinyddiaeth a biwrocratiaeth ddiangen, sicrhau defnydd mwy effeithiol o adnoddau a byddwn ni’n symleiddio’r hyn a elwir yn ‘haen ganol’ rhwng ysgolion a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, consortia addysg, prifysgolion, Estyn, CBAC, a Chymwysterau Cymru.

Ysgolion Teulu

Rydyn ni’n credu y dylai ysgolion gynnig gwasanaethau cyfannol ac amlasiantaethol i deuluoedd, gan ddechrau gyda’r Blynyddoedd Cynnar. Byddwn ni’n datblygu meini prawf y cytunir arnynt er mwyn diffinio nodweddion ysgolion teulu, ac yn eu hadeiladu’n rhan o gynlluniau strategol ysgolion.

Bydd ein polisïau rhianta yn adeiladu ar y dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf, i helpu rhieni i ddarparu’r dechrau cynnar gorau posib i’w plant. Rydyn ni’n ymrwymo i dreialu a gwerthuso rhaglenni arloesol a chyflwyno arfer gorau ar fyrder.

Addysg: darllen mwy