Prydau Ysgol am Ddim

Ein nod yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ac uwchradd, gyda phwyslais ar ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, cefnogi ffermwyr lleol a busnesau lleol.

Yn y cyfnod cyntaf o gyflwyno’r polisi hwn, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn codi’r trothwy cymhwysedd fel bod plant ym mhob cartref sy’n cael Credyd Cynhwysol yn cael prydau ysgol am ddim. Yna, byddwn ni’n gosod amserlen i ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i bob disgybl, gan ddechrau gyda phrydau ysgol am ddim i’r holl fabanod, ac yna’r holl blant mewn ysgolion cynradd erbyn diwedd ein tymor cyntaf.

Bydd bwyd a chynhyrchu bwyd wedi’i wreiddio ym mywyd ein hysgolion. Drwy gaffael contractau yn lleol lle bo’n bosib, bydd plant yn dysgu o ble mae eu bwyd yn dod, ac yn datblygu’r arfer o fwyta bwyd maethlon sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol yn gynnar yn eu bywyd, gan arwain at blant iachach a manteision ar gyfer yr economi a’r amgylchedd.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

10,424 votes

Gyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Addysg: darllen mwy