Prentisiaethau

Byddwn ni’n mabwysiadu model o brentisiaethau hirach gyda mwy o hyfforddiant y tu allan i’r swydd ar oedran iau, gan ehangu prentisiaethau ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, yn unol ag economïau datblygedig eraill. Er mwyn gwneud hyn, byddwn ni’n annog cydweithio rhwng darparwyr hyfforddiant annibynnol a’n rhwydwaith colegau Addysg Bellach cenedlaethol.

Byddwn ni’n adolygu’r grymoedd treth sydd ganddon ni, er mwyn archwilio sut gallen nhw ddatgloi buddsoddiad busnesau mewn sgiliau yn well. Bydd pob cyflogwr sy’n cael arian cyhoeddus ar gyfer datblygu sgiliau, fel ym mhob maes arall, yn atebol o ran rheolau gwaith teg.

Dylid partneru pob prentis o dan 21 oed gyda choleg Addysg Bellach er mwyn sicrhau cymorth priodol, gan gynnwys mynediad at ddiwrnodau yn y coleg neu hyfforddiant/addysg oddi ar y safle ar gyfer sgiliau allweddol neu ddewisiadau addysg priodol eraill.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn sefydlu rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl ifanc, o bob cefndir, sy’n cael mynediad at brentisiaethau gradd a lefel uwch fel dewis amgen i’r brifysgol.
  • Yn gwella mynediad i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig at y prentisiaethau gorau. Bydd cyfran o arian ardoll yn cael ei neilltuo ar gyfer gwario ar fwrsariaethau, allgymorth, neu deithio ar gyfer prentisiaid difreintiedig.
  • Yn creu porth tebyg i borth UCAS, lle gall pobl ifanc ddod o hyd yn hawdd i wybodaeth am brentisiaethau a chyrsiau Addysg Bellach ac ymgeisio amdanynt, er mwyn mynd i’r afael â’r broses ymgeisio dameidiog ac i gynyddu cydraddoldeb statws o gymharu â llwybrau academaidd.
  • Yn peilota rhaglen ‘Arbenigydd Crefft’ newydd, gyda’r nod o ddarparu llwybrau i weithwyr hŷn rannu eu profiad gyda chenedlaethau iau. Bydd hyn yn adeiladu ar y fframwaith prentisiaeth meistr grefftwr presennol sy’n cael ei beilota ym maes Peirianneg yng Nghymru.
  • Yn cefnogi rhyngwladoli’r cwricwlwm Addysg Bellach, gan roi mynediad at sgiliau a thechnoleg ddiwydiannol o ansawdd byd eang i ddysgwyr technegol a galwedigaethol Cymru.
  • Yn diweddaru lefel sgiliau rolau traddodiadol menywod, gan gynyddu eu cyflog a’u statws.
  • Yn dynodi cyfran benodol a chynyddol o gyfanswm y gyllideb brentisiaethau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i sicrhau cynnydd sylweddol yng nghyfran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.
  • Yn mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth menywod a phobl groenliw mewn prentisiaethau drwy dargedau ymestynnol, yn gysylltiedig â chyllid, ar gyfer pob darparwr hyfforddiant sy’n darparu prentisiaethau er mwyn iddynt fynd i’r afael ag anghydbwysedd rhywedd ar draws llwybrau prentisiaethau.

Addysg: darllen mwy