Dysgu Gydol Oes

Er mwyn cydbwyso buddsoddiad addysgol, mae angen i ni ymrwymo i fuddsoddi mewn dysgu gydol oes, yn hytrach na chynnig geiriau gwag. Mae angen i ni ddechrau drwy greu lwfans dysgu gydol oes. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd o grantiau, benthyciadau, a hawl i ddarpariaeth am ddim.

Byddwn ni’n cynnig grant o £5,000 i Gyfrifon Dysgu Personol pob unigolyn dros 25 oed i hyfforddi neu i ailhyfforddi, gyda benthyciadau ychwanegol i dalu am gyrsiau drutach a chostau cynhaliaeth pobl sydd am wneud cwrs yn llawn amser (a gaiff ei dalu yn yr un ffordd â benthyciadau myfyrwyr). Byddan nhw ar gael i unrhyw un waeth pa gyllid blaenorol byddan nhw wedi’i gael. I ddechrau, byddwn ni’n treialu hyn gyda phobl sydd wedi’u diswyddo yn ddiweddar.

Bydd benthyciadau dysgu a chynhaliaeth ar Lefel 4, 5 a 6, gan gynnwys ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, ar gael i bob oedolyn 18 oed neu’n hŷn, a bydd ar gael ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch.

Byddwn ni’n mynd i’r afael â’r cwymp mewn astudio’n rhan-amser ac astudio aeddfed dros y degawd diwethaf. Gallai hyn gynnwys mwy o opsiynau dysgu cyfunol, a symud i ffwrdd o raddau baglor tair blynedd llawn amser at gymysgedd mwy o gyrsiau byrrach rhan-amser a chyrsiau mwy galwedigaethol. Bydd ein cynnig gofal plant ar gael i’r rhai y mae cyfrifoldebau gofalu yn rhwystr sylweddol rhag dysgu.

Addysg: darllen mwy