Blynyddoedd Cynnar

Byddwn ni’n sefydlu gwasanaeth addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg cenedlaethol am ddim, sef Meithrin Cymru, a fydd yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel i blant o 12 mis oed tan eu bod yn gymwys ar gyfer addysg lawn amser.

Bydd y polisi hwn yn cael ei gyflwyno dros ddau dymor Llywodraeth, a bydd llawer ohono’n cael ei weithredu yn y tymor cyntaf. Fel cam cyntaf, bydd 30 awr o ofal plant yr wythnos ar gael i blant waeth beth yw statws gwaith eu teulu. Erbyn diwedd tymor cyntaf y Llywodraeth, bydd y cynnig wedi’i ehangu i 30 awr o ofal plant i bob plentyn 2 oed neu’n hŷn.  Rydym yn fyalch bod Plaid Cymru wedi ymestyn darpariaeth gofal plant hyd yn oed mas o lywodraeth trwy'r Cytundeb Cyd-Weithio.

Byddwn yn buddsoddi yn y gweithlu gofal plant, gan gynnwys cynyddu nifer yr athrawon meithrin sydd wedi’u cymhwyso â gradd.

Ein nod yw symud tuag at roi Statws Athro Cymwysedig i gymaint o’r sector â phosib, gyda’r cynnydd mewn cyflog, amodau, a statws y byddai hyn yn ei gynnwys. Byddwn ni’n creu cronfa ariannu bwrpasol i gyflawni hyn.

Byddwn ni’n defnyddio’r cam cyntaf o ddatblygiad i sicrhau bod modd i bob plentyn ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol. Drwy weithio gyda darparwyr gofal plant, fel y Mudiad Meithrin, byddwn ni’n anelu i sicrhau bod gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ym mhob rhan o Gymru. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cefnogi gan waith cynllunio gweithlu, targedau a diwygiadau pellach mewn Deddf Addysg Gymraeg.

Byddwn ni’n cynnig cyfleoedd i ddysgu Cymraeg am ddim i athrawon meithrin yn y sector cyfrwng Saesneg, fel bod modd iddyn nhw fanteisio ar gyfleoedd gwaith newydd cyfrwng Cymraeg.

Addysg: darllen mwy