Y proffesiwn addysgu

Ar hyn o bryd, mae un ymhob tri athro yn rhoi’r gorau i’r ystafell ddosbarth yn eu pum mlynedd gyntaf. Byddwn ni’n mynd i’r afael â hyn drwy roi gwerth ar y proffesiwn, a chreu amodau gweithio a chyfleoedd gwell.

Byddwn ni’n codi cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru 10 y cant i £30,000 o 2022 ymlaen, ac yn darparu egwyliau sabothol canol gyrfa i athrawon.

Rydyn ni’n ymrwymo i wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan ddechrau gyda’r gofyniad bod pob athro newydd gymhwyso yn gweithio tuag at radd meistr a ariennir gan y llywodraeth mewn addysg neu bwnc sy’n berthnasol i’w gwaith yn yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd. Byddwn ni hefyd yn annog athrawon sy’n ymarfer i gael y cymhwyster drwy astudio’n rhan-amser.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn gwella’r gymhareb athrawon-disgyblion, er mwyn galluogi mwy o addysgu grŵp ac un-i-un.
  • Yn datblygu llwybrau gyrfaol, gan gynnwys cynlluniau mentora a diwygio cynlluniau cymhelliant.
  • Yn penodi mwy o staff nad ydynt yn addysgu i ymdrin ag anghenion disgyblion y tu hwnt i addysg.
  • Yn symleiddio’r strwythur athrawon cyflenwi drwy ddychwelyd at system sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdodau Addysg Lleol. Dylai fod yr holl weithwyr addysg, athrawon cyflenwi ac athrawon llawn amser fel ei gilydd fynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfa.
  • Yn cynnal adolygiad o Addysg Gychwynnol Athrawon a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i bennu eu perthnasedd i ofynion y cwricwlwm newydd.

Mae gan gynorthwywyr addysgu a staff cynorthwyol ran hanfodol i’w chwarae yn gwneud ysgolion yn drefnwyr profiad y tu hwnt i ffiniau’r ysgol. Byddwn ni’n datblygu hyn fel rhan o rôl fwy deniadol a ffurfiol ar gyfer cynorthwywyr dysgu nad oes ganddyn nhw lwybr gyrfaol clir ar hyn o bryd.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

10,420 votes

Gyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Addysg: darllen mwy